R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
1. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sefyllfa bresennol o ran polisi Llywodraeth Cymru ar fater cosbrestru undebwyr llafur? OAQ(4)0335(FIN)
2. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y broses a ddefnyddiwyd wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru 2014/15? OAQ(4)0345(FIN)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido prosiectau cyfalaf mawr newydd? OAQ(4)0346(FIN)W
4. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad y gyllideb ddrafft i'r portffolio Diwylliant a Chwaraeon? OAQ(4)0342(FIN)
5. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd yn sgîl adroddiad Comisiwn Silk? OAQ(4)0338(FIN)
6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau cyllido teg i Gymru? OAQ(4)0347(FIN)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb cyfalaf Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0330(FIN)
8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad Comisiwn Silk? OAQ(4)0339(FIN)W
9. Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ynglŷn â'r dyraniad i'r portffolio hwnnw yn y gyllideb ddrafft? OAQ(4)0332(FIN)
10. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb yr UE o ran sut y mae'n effeithio ar Gymru? OAQ(4)0336(FIN)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop a ddaeth i Gymru yng nghyfnod ariannol 2012-13? OAQ(4)0331(FIN)
12. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad y gyllideb i'r portffolio Diwylliant a Chwaraeon? OAQ(4)0333(FIN)
13. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda’i chyd-Weinidogion yn y Cabinet ynghylch cyllidebau adrannol? OAQ(4)0344(FIN)
14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fesurau gwariant ataliol a amlinellir yng nghyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0341(FIN)
15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am werth caffael cyhoeddus i Gymru? OAQ(4)0337(FIN)W
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ar ddyfodol
Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru?
OAQ(4)0355(LG)W
2. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bobl hŷn a cham-drin yn y cartref? OAQ(4)0344(LG)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ystyriaethau yn adolygiad Williams o ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0347(LG)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau i ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ(4)0342(LG)
5. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa
drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda chynghorau yng
Nghanolbarth a Gorllewin Cymru am gydweithio â gwasanaethau
cyhoeddus eraill? OAQ(4)0356(LG)W
6. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod? OAQ(4)0348(LG)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0340(LG)
8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag arweinwyr cynghorau ynglŷn â setliad cyllideb llywodraeth leol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0352(LG)
9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)0346(LG)
10. Elin Jones (Ceredigion): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ynglŷn â'r trafodaethau ar bensiynau'r Gwasanaeth Tân? OAQ(4)0350(LG)W
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd yn y chwe mis nesaf i leihau nifer yr achosion o drais domestig na roddir gwybod amdanynt? OAQ(4)0343(LG)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â phensiynau diffoddwyr tân? OAQ(4)0345(LG)
13. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli asedau mewn llywodraeth leol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0354(LG)
14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae'n eu cymryd i leihau'r baich ar lywodraeth leol yn ystod yr adeg hon o bwysau ariannol nas gwelwyd mo'i thebyg o'r blaen? OAQ(4)0353(LG)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr agenda cydweithio i lywodraeth leol? OAQ(4)0341(LG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o unrhyw fwlch cyflog rhwng cyflogeion gwrywaidd a benywaidd y Cynulliad? OAQ(4)0077(AC)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gynllun prentisiaethau'r Cynulliad? OAQ(4)0078(AC)W